Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ yn llamu ymlaen o ran ei safle byd-eang
Mewn tabl cynghrair sydd newydd ei gyhoeddi mae Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ wedi codi 60 safle'n uwch na'r hyn yr oedd o'r blaen. Yn y ‘QS World University Rankings’ (www.topuniversities.com) am eleni mae'r Brifysgol yn awr yn cael ei gosod yn safle 411 yn y byd.
Wrth groesawu'r newydd am safle ³ÉÈËÊÓÆµ yn y gynghrair bwysig hon, meddai'r Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ:
“Erbyn hyn mae presenoldeb Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ i'w deimlo ledled y byd. Mae'r Brifysgol yn darparu addysg ac ymchwil o ansawdd uchel sy'n gwneud cyfraniad pwysig yn rhanbarthol a byd-eang. Mae’r tabl yma'n cadarnhau ein henw da cynyddol yn rhyngwladol."
Mae'r llwyddiant rhyngwladol hwn yn dod yn dynn wrth sodlau llwyddiant diweddar ³ÉÈËÊÓÆµ yng nghanlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS), sy'n adlewyrchu pwyslais y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr drwodd a thro. Am yr ail flwyddyn yn olynol fe wnaeth y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn Awst 2015, osod ³ÉÈËÊÓÆµ yn y 10 uchaf o brifysgolion gwledydd Prydain am foddhad myfyrwyr.
Cafodd ymchwil ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ hefyd sgôr uchel yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, gan gydnabod bod mwy na thri chwarter ymchwil ³ÉÈËÊÓÆµ naill ai 'gyda'r orau yn y byd' neu’n 'rhagorol yn rhyngwladol'.
Cafodd y QS Subject Rankings eu lansio yn 2011 ac maent yn arweiniad i ystod o feysydd astudio poblogaidd mewn prifysgolion ar draws y byd. Mae'r detholwyr yn cloriannu miloedd o brifysgolion a gosod sefydliadau yn eu safleoedd yn y tabl ar sail ymatebion i gwestiynau gan academyddion a chyflogwyr ledled y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Medi 2015