Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, yn ogystal â’r rhai y tu allan i’r Brifysgol.
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hein wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o lefelau - o ddechreuwyr i ddysgwyr a allai fod eisiau adnewyddu sgiliau iaith sydd angen dipyn bach o waith ac/neu barhau o astudiaethau TGAU/Lefel A.
*Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn - mewn achosion lle mae cyrsiau’n orlawn byddwn yn gweithredu cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin. Yr isafswm oedran yw 18.
Amserlen y cwrs
- Dechrau: 6.10pm
- Egwyl: 7.00pm - 7.10pm
- Diwedd: 8.00pm
- Sesiwn gyntaf: wythnos sy'n dechrau 5 Hydref 2026.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 2 Tachwedd 2026.
- Sesiwn olaf: wythnos sy'n dechrau 14 Rhagfyr 2026.
Dosbarthiadau sydd ar gael
Dechreuwyr (A1) – Cod LXN-1021
Grŵp 1 - Dydd Llun (LR1)
Grŵp 2 - Dydd Mawrth (LR1)
Canolradd (A2) – Cod LXN-1051
Dydd Mercher (LR1)
Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio (LR) 1, 2, 3 i gyd wedi'u lleoli ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau (³ÉÈËÊÓÆµ LL57 2DF). Trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae maes parcio ar gael wrth yr adeilad hwn, sydd fel arfer yn rhad ac am ddim gyda'r nos.
Amserlen y cwrs
- Dechrau: 6.10pm
- Egwyl: 7.00pm - 7.10pm
- Diwedd: 8.00pm
- Sesiwn gyntaf: wythnos sy'n dechrau 1 Chwefror 2027.
- Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 1 Mawrth 2027.
- Gwyliau'r Gwanwyn (3 wythnos, dim sesiynau): wythnos sy'n dechrau 22 Mawrth 2027.
- Sesiwn olaf: wythnos sy'n dechrau 3 Mai 2027.
Dosbarthiadau sydd ar gael
Dechreuwyr (A1) – Cod LXN-1524
Dydd Llun (LR1)
Dechreuwyr Uwch (A1+) – Cod LXN-1022
Dydd Mawrth (LR1)
Canolradd Uwch (A2+) – Cod LXN-1052
Dydd Mercher (LR1)
Ystafelloedd Darlithio
Mae Ystafelloedd Darlithio (LR) 1, 2, 3 i gyd wedi'u lleoli ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau (³ÉÈËÊÓÆµ LL57 2DF). Trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae maes parcio ar gael wrth yr adeilad hwn, sydd fel arfer yn rhad ac am ddim gyda'r nos.
Ieithoedd I Bawb - Pa Lefel Sydd I Mi?
Edrychwch ar y disgrifyddion isod i werthuso’r lefel ddelfrydol ar gyfer eich gofynion chi. Os nad ydych yn siŵr pa lefel sydd orau i chi, siaradwch gyda’r tiwtor ar y noson cyntaf am gyngor ac arweiniad.
Dechreuwyr (CEFR*: A1) Rydych yn ddechreuwr pur, heb nemor ddim gwybodaeth o’r iaith. Byddwch yn dod yn fedrus mewn amrywiaeth o dasgau iaith syml, mewn sefyllfaoedd bob dydd y gellir eu rhagweld. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth sylfaenol iawn o gystrawen a geirfa’r iaith.
Dechreuwyr a mwy (CEFR*: A1+) Efallai y byddwch wedi astudio’r iaith yn yr ysgol ers rhai blynyddoedd neu ddilyn cwrs dechreuwyr. Mae gennych eirfa gyfyngedig iawn a rhywfaint o ddealltwriaeth o’r cystrawennau sylfaenol. Bydd y cwrs yn cyflwyno amseroedd newydd y ferf a’ch helpu i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd bob dydd, yn gymdeithasol neu yn y gwaith..
Canolradd (CEFR*: A2) Mae gennych sylfaen resymol yn yr iaith ar lefel ysgol, efallai i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd o ‘raid’. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer iaith syml yn unig yn ystod eich gwyliau tramor, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn codi’n rheolaidd.
Canolradd a mwy (CEFR*: A2+) Mae gennych sylfaen gadarn yn yr iaith ar lefel ysgol, bron yn sicr i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer dialogau syml yn unig yn ystod eich gwyliau neu’ch taith dramor ar gyfer eich gwaith, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd a chyfrannu at sgyrsiau o ddiddordeb cyffredin.
*CEFR = Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin o ran lefelau iaith.
Deunyddiau Dysgu a Gwerslyfrau
Gwerslyfrau
Mae ein modiwlau yn gofyn i fyfyrwyr brynu gwerslyfr. Cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich derbyn ar fodiwl, sicrhewch eich bod yn prynu'r gwerslyfr perthnasol ar gyfer eich lefel.
Dechreuwyr a Dechreuwyr Uwch:
Totem: Livre de l'élève A1 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Marie-José Lopes a Jean-Thierry Le Bougnec
Canolradd a Chanolradd Uwch:
Totem: Livre de l'élève A2 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Jean-Thierry Le Bougnec a Marie-José Lopes
Uwch ac Uwch Plus:
Totem: Livre de l'élève B1 + DVD-Rom + manuel numérique simple gan Jean-Thierry Le Bougnec a Marie-José Lopes
* CEFR = Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer lefelau iaith.
Am ragor o gymorth a chyngor ynghylch y lefelau iaith, cysylltwch â ni. Cofiwch nodi pa iaith y mae gennych ddiddordeb mewn ei dysgu.
Cost y Cwrs
Rwy'n Fyfyriwr ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ
Gall myfyrwyr Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am ffi o £60 y modiwl. Caiff y modiwlau hyn eu cyflwyno ar sail archwilio yn unig (audit mode), heb unrhyw asesiad ffurfiol na chredydau academaidd yn cael eu dyfarnu.
Rwy'n Fyfyriwr Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ
Bydd myfyrwyr sy'n dewis modiwlau Ieithoedd i Bawb fel rhan o'u Blwyddyn Sylfaen yn cael y cwrs ac am ddim fel rhan o'u hastudiaethau, gan fod y modiwl yn opsiwn a ddewiswyd fel rhan o'r rhaglen ehangach. Wrth gofrestru eich diddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich bod yn fyfyriwr Blwyddyn Sylfaen sy'n dewis modiwl Ieithoedd i Bawb.
Rwy’n Aelod o Staff Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ
Gall aelodau o staff Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am £150 y modiwl. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu.
Rwy'n Athro/Athrawes Ysgol Gynradd neu Uwchradd
Gall athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd gofrestru ar fodiwlau Ieithoedd i Bawb am ffi ostyngol o £60 y modiwl. Caiff y categori hwn ei ariannu'n rhannol gan Brosiect Ieithoedd Rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Fel pob modiwl Ieithoedd i Bawb, cynhelir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol na chredydau academaidd yn cael eu dyfarnu.
Rwy’n Aelod o’r Gymuned
Mae croeso i aelodau’r gymuned ymuno â’n dosbarthiadau nos rhan-amser Ieithoedd i Bawb. Y ffi yw £170 y modiwl, gyda phob modiwl yn cynnwys 10 sesiwn wythnosol. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau.
Rwy’n Aelod o’r Gymuned sy’n Gymwys i Gael Gostyngiad (aelodau sydd wedi gwneud cwrs Ieithoedd i bawb yn y gorffennol a phensiynwyr)
Mae aelodau’r gymuned sydd wedi cwblhau cwrs Ieithoedd i Bawb yn y gorffennol, neu sydd yn bensiynwyr, yn gymwys i gael gostyngiad o £120 y modiwl. Cynigir y modiwlau hyn ar sail archwilio yn unig, heb unrhyw asesiad ffurfiol nac unrhyw gredydau.