³ÉÈËÊÓÆµ

Fy ngwlad:

Cyfleoedd i Ymweld  Phrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ Yn Ystod Clirio 2026

Diwrnod Ymweld Clirio

Pwy ddylai fynychu

Ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig Clirio gan Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ.

Pryd mae’n cael ei gynnal

Unwaith y byddwch wedi derbyn cynnig Clirio i astudio ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, byddwn yn eich gwahodd drwy e-bost i Ddiwrnod Ymweld Clirio ym mis Awst.

Sut i fynychu

Cewch eich gwahodd i'r digwyddiad yma. Gwiriwch eich e-bost am y manylion.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod

  • Cyflwyniad i Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ
  • Taith dywys o amgylch y campws
  • Cyfle i archwilio bywyd myfyrwyr ym Mangor

Beth i’w wneud nesaf

Os ydych wedi derbyn cynnig Clirio i astudio ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, gwiriwch eich e-bost am fanylion eich Diwrnod Ymweld Clirio.

Diwrnod Agored ar gyfer Ymgeiswyr Clirio

Pwy ddylai fynychu

Ymgeiswyr sy’n ystyried Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ fel eu dewis Clirio, gan gynnwys y rhai nad ydynt wedi gwneud cais eto.

Pryd mae’n cael ei gynnal

Dydd Sul, 16 Awst 2026.

Sut i fynychu

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein ymlaen llaw.

Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod

  • Sgyrsiau am gyrsiau a phynciau
  • Cyfarfod â staff addysgu a myfyrwyr
  • Ymweld â’r llety a’r cyfleusterau

Beth i’w wneud nesaf

Cofrestrwch ar gyfer y Diwrnod Agored i’ch helpu i benderfynu a ddylech wneud cais i Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ drwy Clirio.

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Cwestiynau Cyffredin - Ymweld â Phrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ fel Ymgeisydd Clirio

Gallwch fynychu Diwrnod Ymweld Clirio ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ os:

  • rydych wedi derbyn cynnig Clirio gan Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, a
  • rydych wedi cael eich gwahodd drwy e-bost i fynychu Diwrnod Ymweld Clirio.

Os nad oes gennych gynnig eto, gallwch fynychu’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio ddydd Sul, 16 Awst 2026.
 

Gallwch. Os nad oes gennych gynnig eto i astudio ym Mangor, gallwch fynychu’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio ar ddydd Sul, 16 Awst 2026.
 

Gallant, mae croeso i rieni a gwesteion ddod gyda chi i’r Diwrnod Ymweld Clirio a’r Diwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio.
 

Os ydych yn ystyried dod i Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ drwy Clirio, gall mynychu Diwrnod Ymweld Clirio neu Ddiwrnod Agored ar gyfer ymgeiswyr Clirio eich helpu i wneud y penderfyniad cywir yn hyderus. Bydd ymweld â ³ÉÈËÊÓÆµ yn rhoi cyfle i chi weld y campws drosoch eich hun, gofyn cwestiynau, a phenderfynu a yw’n teimlo fel y lle iawn i chi.
 

Ydynt. Mae’r Diwrnod Ymweld Clirio fel arfer yn llai ac yn fwy personol, gyda ffocws ar wybodaeth benodol am gyrsiau a’r camau nesaf.

Dwylo gydag ewinedd wedi eu paentio yn wyn yn gafael mewn ffôn symudol
Credit:Paul Hanaoka on Unsplash

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Clirio

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.

Gweld oriau agor y Llinell Gymorth