Dewch o hyd i atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am lety ar gyfer ymgeiswyr Clirio ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, gan gynnwys sut i wneud cais am le mewn neuaddau preswyl, sicrwydd o llety ymgeiswyr Clirio, a beth sy’n digwydd nesaf ar ôl gwneud cais.
Rydym yn rhoi sicrwydd o lety i ymgeiswyr israddedig newydd sydd:
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs llawn-amser sy'n dechrau fis Medi
- yn gwneud cais ar gyfer cwrs sydd wedi ei leoli yn ein campws ym Mangor
- yn archebu ystafell mewn neuadd erbyn 6 Medi
Mae ein llety i israddedigion yn bennaf yn ystafelloedd i un, yn rhai en-suite a chyda chyfleusterau hunanarlwyo. Os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Awst, byddwch yn gallu dewis pa fath o ystafell fyddai orau gennych, yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu.
Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd ein system archebu yn agor ar ddiwedd mis Ionawr, gan roi cyfle i chi ddewis eich ystafell o ddewis trwy ein system archebu ar-lein.
Sylwch nad yw’r sicrwydd o lety yn berthnasol i:
- Fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau nad ydynt wedi’u lleoli ar gampws ³ÉÈËÊÓÆµ
- Myfyrwyr rhan-amser
- Cyrsiau sy'n cychwyn ar unrhyw adeg arall nad yw wedi’i restru uchod
Ar ôl derbyn eich cynnig Clirio ar UCAS, byddwch yn derbyn e-bost gan Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ o fewn 24-48 awr gyda chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am lety.
Gofynnir i chi:
- Fynd ar-lein drwy ddolen yn eich e-bos
- Cwblhau ffurflen gais syml ar gyfer llety
- Dewis eich neuadd a’r math o ystafell sydd orau gennych
Ydyn, os gwnewch gais am le mewn neuadd cyn y dyddiad cau, sef 31 Awst, byddwch yn gallu dewis pa fath o ystafell fyddai orau gennych, yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu. Mae gwneud cais yn gynnar yn rhoi’r dewis gorau o lety i chi.
Dylech wneud cais cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cynnig Clirio gyda UCAS.
Mae gwneud cais yn gynnar yn rhoi’r dewis gorau o lety i chi ac yn rhoi mwy o amser i baratoi ar gyfer bywyd prifysgol.
Unwaith y byddwch yn derbyn eich cynnig Clirio drwy UCAS:
- Arhoswch am eich e-bost llety (o fewn 24–48 awr)
- Cyflwynwch eich cais am neuaddau preswyl ar-lein
- Paratowch i ddechrau eich taith ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ!
Gallwch. Fel ymgeisydd Clirio, gallwch gwrdd ag ymgeiswyr eraill cyn cyrraedd drwy ymuno â’r ap Campus Connect.
Byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â’r ap drwy e-bost, a fydd hefyd yn cynnwys eich rhif cyfeirnod Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, y bydd ei angen arnoch i gofrestru ar yr ap.
Unwaith y byddwch wedi ymuno, gallwch wneud ffrindiau gydag ymgeiswyr eraill yn eich llety ac ar eich cwrs, a sgwrsio gyda myfyrwyr presennol.
Na, nid yw’r sicrwydd o lety yn berthnasol i:
- Fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau nad ydynt wedi’u lleoli ar gampws ³ÉÈËÊÓÆµ
- Myfyrwyr rhan-amser
- Cyrsiau sy'n cychwyn ar unrhyw adeg arall nad yw wedi’i restru uchod