Bydd y fenter yn dod 芒 gwyddonwyr, llywodraethau, cyfleustodau d诺r a sefydliadau iechyd cyhoeddus o bob cwr o'r byd ynghyd i sefydlu un o'r rhwydweithiau gwybodaeth am dd诺r gwastraff byd-eang cydlynol cyntaf.
Mae'r lansiad yn nodi dechrau ymdrech uchelgeisiol gan yr Athro Davey Jones a'i d卯m, i drawsnewid d诺r gwastraff o sgil-gynnyrch sy'n cael ei anwybyddu i fod yn un o gyfryngau mwyaf pwerus y byd i ddeall iechyd y cyhoedd, newid amgylcheddol a risgiau byd-eang newydd.
Nod y fenter yw creu cipolwg byd-eang ar yr un pryd o amodau iechyd ac amgylcheddol trwy ddadansoddi d诺r gwastraff, gan gynhyrchu mewnwelediadau newydd i gryfhau鈥檙 gallu i gadw golwg ar glefydau, olrhain ymwrthedd gwrthficrobaidd, amddiffyn yr amgylchedd a gwella parodrwydd am bandemig.
Mae'r lansiad yn digwydd yng nghynhadledd Wythnos D诺r y Byd yn Stockholm, sy'n dod ag arbenigwyr, llunwyr polisi, busnesau a sefydliadau rhyngwladol o bob cwr o'r byd ynghyd.
Bydd y project yn cydlynu un diwrnod byd-eang o samplu d诺r gwastraff ar 31 Mawrth 2027, gyda phartneriaid sy'n cymryd rhan yn dadansoddi mewn labordai lletyol (lle bo modd), yn ogystal 芒 chludo samplau i Brifysgol 成人视频 i'w dadansoddi'n ganolog. Y nod yw cynhyrchu'r cipolwg cydamserol cyntaf o iechyd cyhoeddus byd-eang gan ddefnyddio epidemioleg ar sail d诺r gwastraff (WBE).
Gan ddefnyddio dulliau sefydledig ac arloesol, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ganfod ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), pathogenau, cynhyrchion fferyllol, dangosyddion cemegol a marcwyr eraill iechyd pobl.
Un o egwyddorion diffiniol Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang yw cynwysoldeb. Nod y fenter yw sicrhau cyfranogiad gan wledydd waeth beth fo'u statws economaidd, gyda phwyslais penodol ar gefnogi gwledydd incwm isel a chanolig trwy hyfforddiant, cydweithio a meithrin gallu. Mae trefnwyr yn credu mai dim ond trwy gyfranogiad cyfartal y gellir cael darlun gwirioneddol fyd-eang o iechyd y boblogaeth.
Mae'r fenter yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth 芒'r sefydliad ymchwil sy'n ymroddedig i astudio gwyddorau bywyd, Verily, Prifysgol Caerfaddon, y Consortiwm Byd-eang ar gyfer Gwyliadwriaeth D诺r Gwastraff ac Amgylcheddol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd (GLOWACON), Canolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd, a chonsortiwm rhyngwladol sy'n tyfu o sefydliadau gwyddonol ac iechyd y cyhoedd.
Gyda thros 31 o wledydd wedi cofrestru hyd yn hyn, mae ei uchelgais hirdymor yn ymestyn ymhell y tu hwnt i un digwyddiad samplu blynyddol. Mae trefnwyr yn rhagweld creu isadeiledd monitro byd-eang parhaol sy'n gallu cynhyrchu gwybodaeth barhaus am dd诺r gwastraff i gefnogi iechyd y cyhoedd, diogelu'r amgylchedd a darganfyddiadau gwyddonol.
Yn y pen draw, y weledigaeth yw creu "Arsyllfa Iechyd y Blaned" lle mae d诺r gwastraff yn dod yn ffynhonnell wybodaeth arferol ar gyfer deall iechyd cydgysylltiedig pobl, anifeiliaid a'r amgylchedd. Drwy gasglu gwybodaeth gymharol gan gymunedau ledled y byd, mae鈥檙 Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang yn ceisio sefydlu meincnod byd-eang newydd i fonitro newid mewn iechyd a'r amgylchedd yn y degawdau i ddod.
Dywedodd Davey Jones, Athro Gwyddor yr Amgylchedd ac Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol 成人视频, "Mae d诺r wedi cysylltu dynoliaeth erioed. Mae popeth a wnawn mewn cymdeithas yn gadael 么l troed yn ein d诺r gwastraff. Yr hyn yr ydym am ei wneud gyda Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang yw defnyddio'r wybodaeth y mae'n ei darparu i roi hwb i ymchwil iechyd cyhoeddus ledled y byd, gan ein helpu i ganfod bygythiadau newydd yn gynharach ac adeiladu system rhybuddio cynnar gryfach ar gyfer pandemigau yn y dyfodol. Bydd y fenter yn galluogi cael cymhariaeth fyd-eang o ddata iechyd y cyhoedd gan ddefnyddio dulliau sydd wedi eu safoni, wrth adeiladu adnodd hirdymor trwy samplu ailadroddus blynyddol a set ddata 芒 mynediad agored. Un o egwyddorion craidd y project yw hygyrchedd a chynwysoldeb, gyda phwyslais cryf ar gefnogi cyfranogiad o wledydd incwm isel a chanolig. Rydym am annog cymaint o wyddonwyr, sefydliadau a chymunedau 芒 phosibl i gymryd rhan, cyfrannu data ac arbenigedd, a rhannu'r fenter gyda chydweithwyr a rhwydweithiau a allai fod 芒 diddordeb. Drwy weithio ar draws ffiniau, mae gennym gyfle digynsail i drawsnewid d诺r gwastraff o adnodd sy鈥檔 cael ei anwybyddu yn ffynhonnell o wybodaeth fyd-eang, gan helpu i amddiffyn poblogaethau, cryfhau gwytnwch a chefnogi gwell gallu i wneud penderfyniadau i genedlaethau'r dyfodol.
Wrth wraidd y fenter mae'r cysyniad o "un sampl, llawer o ddadansoddiadau". Gall un sampl d诺r gwastraff ddatgelu gwybodaeth am bathogenau, ymwrthedd gwrthficrobaidd, cynhyrchion fferyllol, cyffuriau anghyfreithlon, microblastigion a chemeg d诺r ehangach, gan gynnig persbectif unigryw ar lefel poblogaeth heb yr angen am brofion unigol. Pan g芒nt eu casglu gan ddefnyddio dulliau safonol ar draws gwledydd, gall y data hyn greu darlun byd-eang digynsail o iechyd dynol ac amgylcheddol.
Mae'r rhaglen wedi deillio o wersi a ddysgwyd yn ystod pandemig COVID-19, a ddangosodd werth cadw golwg ar dd诺r gwastraff a'r gallu anghyfartal i fonitro ledled y byd. Mae trefnwyr yn credu y gallai dull byd-eang cydlynol ddarparu haen newydd o barodrwydd ar gyfer argyfyngau iechyd yn y dyfodol gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i newid amgylcheddol a heriau cynaliadwyedd ar yr un pryd.
Heddiw (dydd Llun, 24 Awst), bydd yr Athro Jones hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau panel ar Hyrwyddo Ecwiti D诺r i Bobl a Chynnydd ym Mhafiliwn y Deyrnas Unedig, a gynhelir gan y cwmni ymgynghori byd-eang, ARUP.
Hefyd ar stondin ARUP, ddydd Mawrth, 25 Awst am 1.30pm, bydd yr Athro Jones yn cael trafodaeth ar y cyd 芒 Dr Robert Bradburne, Dirprwy gyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd, a fydd yn canolbwyntio ar ansawdd d诺r, arloesedd ac iechyd y cyhoedd.
Gwahoddir sefydliadau ac ymchwilwyr i gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan yn y Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang.
Bydd y rhai sy'n cofrestru yn derbyn mynediad cynnar at adnoddau a byddant y cyntaf i glywed am sut y gallent gymryd rhan, boed yn samplu'n weithredol neu'n syml yn dilyn cynnydd y project.
Bydd pob cyswllt cofrestredig yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i fanylion, adnoddau ac amserlenni pellach gael eu rhyddhau.
Cofrestrwch ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang .
Ewch i鈥檙 wefan Diwrnod D诺r Gwastraff Byd-eang
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: d诺r gwastraff@bangor.ac.uk