I lawer o bobl, mae bod ag ofn nadroedd fenymig yn gysylltiedig ag un peth yn unig: poen.
Ac eto, mae ymchwil newydd dan arweiniad gwyddonwyr yn Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn awgrymu, ymysg gwiberod Ewrop o leiaf, nad achosi poen oedd y grym y tu 么l i esblygiad eu fenwm.
gan d卯m rhyngwladol o ymchwilwyr o bob cwr o Ewrop ac Awstralia, yn archwilio fenymau sawl rhywogaeth o wiberod Ewropeaidd. Y nod oedd ymchwilio i hen gwestiwn yn y maes bioleg esblygiadol: sut caiff fenymau nadroedd eu llywio gan ofynion cystadleuol dal ysglyfaeth ac amddiffyn yn erbyn ysglyfaethwyr?
Roedd yr ateb yn syndod.
Esboniodd yr Athro Wolfgang W眉ster, sef uwch awdur yr astudiaeth ac arbenigwr ar esblygiad fenwm ym Mhrifysgol 成人视频:
"Roeddem yn disgwyl dod o hyd i dystiolaeth bod rhai gwiberod wedi esblygu cydrannau fenwm yn benodol i achosi poen yn gyflym fel mecanwaith amddiffynnol."
鈥淵n lle hynny, ni chawsom hyd i unrhyw dystiolaeth bod y fenymau鈥檔 actifadu nerfgelloedd sy鈥檔 synhwyro poen yn uniongyrchol. Mae hyn yn awgrymu mai prif ysgogiad esblygiad fenwm ymysg gwiberod Ewropeaidd yw鈥檙 angen i drechu ysglyfaeth."
Gweithred gydbwysol fiolegol
Fenwm yw un o arfau mwyaf soffistigedig natur. Mae nadroedd yn dibynnu arno i drechu a lladd ysglyfaeth, ond gall hefyd helpu i atal ysglyfaethwyr.
Fodd bynnag, mae'r rolau deuol hyn yn cyflwyno her esblygiadol. Mae chwarennau fenwm yn cynnwys coctel cemegol meidraidd, sy'n golygu y gall gwahanol swyddogaethau fenwm gystadlu am le ac adnoddau.
Aeth yr ymchwilwyr ati i brofi a oes gan wiberod sy'n bwydo ar ysglyfaeth gymharol ddiamddiffyn (trychfilod) fwy o gyfle i esblygu tocsinau sy'n achosi poen at ddibenion amddiffyn o gymharu 芒 rhywogaethau sy'n hela ysglyfaeth fwy peryglus, megis cnofilod, yn rheolaidd.
I ymchwilio i hyn, aeth y t卯m ati i ddadansoddi samplau fenwm a gasglwyd o wiberod Ewropeaidd ar draws y cyfandir a phrofi eu heffeithiau ar dderbynyddion nerf arbenigol sy'n ymwneud 芒 synhwyro poen.
Roedd y gwyddonwyr wedi rhagweld y byddai o leiaf rhai rhywogaethau鈥檔 dangos tystiolaeth o docsinau esblygiadol sy'n sbarduno poen ar unwaith, gan eu helpu i gadw ysglyfaethwyr draw.
Ond nid dyna fu.
Elwa dim ar boen
Er gwaethaf gwahaniaethau sylweddol yng nghyfansoddiad fenwm rhwng rhywogaethau, ni wnaeth yr un o'r fenymau actifadu'n uniongyrchol y derbynyddion synhwyro poen a brofwyd yn yr astudiaeth, waeth beth fo'u deiet.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod dethol naturiol wedi blaenoriaethu effeithlonrwydd hela dros gynhyrchu poen amddiffynnol yn ystod esblygiad fenymau gwiberod Ewropeaidd.
Hynny yw, mae'n ymddangos bod fenwm wedi'i optimeiddio i sicrhau pryd o fwyd yn hytrach na rhoi rhybudd.
Dywedodd y prif awdur, Dr B谩lint 脺veges, cymrawd ymchwil a oedd yn gwneud yr ymchwil fel rhan o'i waith gyda gr诺p Esblygiad ac Ecoleg Foleciwlaidd Prifysgol 成人视频 a Chanolfan Ymchwil Ecolegol Rhwydwaith Ymchwil Hwngari:
"Mae hyn yn herio'r syniad bod swyddogaethau amddiffynnol ac ysglyfaethus yn gyrru esblygiad fenwm i wahanol gyfeiriadau ymysg nadroedd. Mae ein canlyniadau'n dangos mai dal ysglyfaeth yw'r grym mwyaf sy'n llywio cyfansoddiad fenwm yn y rhywogaethau hyn."
Pam ei fod yn bwysig
Mae deall sut a pham mae fenymau neidr yn esblygu yn llawer mwy na chwestiwn academaidd.
Yn 么l Sefydliad Iechyd y Byd, mae brathiad neidr yn glefyd trofannol sy'n cael ei esgeuluso, ac mae鈥檔 lladd dros 100,000 o bobl y flwyddyn ac yn gadael cannoedd o filoedd yn rhagor ag anafiadau neu anableddau parhaol.
Un o'r heriau mwyaf wrth ddatblygu gwrth-fenwm effeithiol yw'r amrywiad enfawr yng nghyfansoddiad y fenwm, hyd yn oed o fewn rhywogaethau unigol o nadroedd.
Drwy ddatgelu'r grymoedd esblygiadol sy'n llywio fenwm, mae gwyddonwyr yn gobeithio deall yn well pam mae'r gwahaniaethau hyn yn digwydd a sut y gallant effeithio ar driniaeth feddygol.
Dywedodd yr Athro W眉ster: "Er mwyn gwella triniaethau brathiad neidr, mae angen i ni鈥檔 gyntaf ddeall beth sy'n sbarduno amrywiaeth fenwm. Mae astudiaethau fel hyn yn ein helpu i ddatgelu'r prosesau esblygiadol y tu 么l i'r fenymau sy'n achosi cymaint o frathiadau sy鈥檔 feddygol bwysig ledled y byd."
Ymdrech ryngwladol
Daeth yr ymchwil 芒 gwyddonwyr o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop ac Awstralia ynghyd, gan gyfuno arbenigedd mewn bioleg fenwm, ecoleg, gwyddoniaeth esblygiadol a niwrofioleg.