³ÉÈËÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Main Arts Building's quad with graduates

Archwiliwch Eich Gweledigaeth Dyngarol

Mae gan bob rhoddwr rywbeth sy’n eu hysbrydoli i roi. P'un a ydych yn teimlo’n angerddol am gefnogi myfyrwyr, hyrwyddo ymchwil neu greu cyfleoedd i genedlaethau'r dyfodol, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i archwilio sut y gall eich haelioni gael effaith barhaol ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ.

DIOLCH AM EICH RHODD!

Beth sydd bwysicaf i chi? 

P'un a ydych yn teimlo’n angerddol am addysg, ymchwil, cynaliadwyedd, diwylliant, llesiant, neu effaith gymunedol, gall eich haelioni helpu i greu newid parhaol ym Mhrifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ.

Yn swatio rhwng y mynyddoedd a'r môr, mae Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ wedi bod yn trawsnewid bywydau drwy addysg, ymchwil ac arloesi ers dros 140 mlynedd. Heddiw, rydym yn parhau i ehangu cyfleoedd, ysbrydoli darganfyddiadau, a mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf dybryd cymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.

 

Creu Cyfle, Newid Bywydau drwy Ddyngarwch

Gyda’ch rhoddion chi, rydyn ni’n creu cyfleoedd, yn ysbrydoli darganfyddiadau, ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol. O gefnogi myfyrwyr talentog a gwella'r profiad dysgu i hyrwyddo ymchwil o'r radd flaenaf ac ymgysylltu cymunedol, mae eich haelioni yn cael effaith ar bob agwedd ar Brifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ. Mae eich cefnogaeth yn trawsnewid bywydau, yn ehangu gwybodaeth ac yn creu newid cadarnhaol sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'r campws ac i gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Rydym yn cydnabod bod llawer o roddwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i gael sgwrs bersonol am yr effaith yr hoffent ei chael. Os hoffech drafod y meysydd sydd bwysicaf i chi ac archwilio sut y gallai eich cefnogaeth helpu i lunio dyfodol Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ, mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddog Datblygu, Persida Chung, am sgwrs anffurfiol.

  01248 - 388756

  p.v.chung@bangor.ac.uk | cymynroddion@bangor.ac.uk