Ydych chi yn ystyried eich opsiynau neu’n barod i wneud cais drwy Clirio? Mae sawl ffordd o gysylltu â ni cyn diwrnod canlyniadau Lefel A yn ystod y cyfnod hynny. Rydym yma i ateb eich cwestiynau a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.
Cofrestrwch Eich Diddordeb Mewn Ymgeisio Drwy Clirio
Ddim yn barod i wneud cais eto? Llenwch ein ffurflen i Gofrestru Eich Diddordeb mewn Clirio a byddwn yn cysylltu gyda’r wybodaeth ddiweddaraf, cyrsiau sydd â lleoedd ar gael, a chyngor am eich camau nesaf. Dyma opsiwn gwych os ydych yn ystyried Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ ac yn dymuno cael cymorth cyn gwneud eich penderfyniad.
Gwnewch Gais am Gwrs Drwy Clirio
Os oes gennych eich canlyniadau ac rydych yn barod i gymryd y cam nesaf, cwblhewch ein ffurflen Gwneud Cais am Gwrs drwy Clirio. Bydd aelod o’n tîm Derbyn yn adolygu eich cais ac yn cysylltu â chi ynglŷn â’ch opsiynau.
Ffoniwch Llinell Gymorth Clirio
Siaradwch ag aelod o staff Prifysgol ³ÉÈËÊÓÆµ ar ein Llinell Gymorth Clirio drwy ffonio 0800 085 1818. Os ydych am wirio eich cymhwysedd, trafod pa gyrsiau sydd ar gael, neu angen arweiniad ar y broses ymgeisio, mae ein tîm yn barod i’ch helpu.
- Llinell Gymorth: 0800 085 1818
- Galwyr rhyngwladol: +44 (0)1248 388320
Sgwrsio’n Fyw gyda Ni
Mae ein gwasanaeth Sgwrs Fyw yn un o’r ffyrdd cyflymaf o gael atebion i’ch cwestiynau am y broses Clirio. Cysylltwch i sgwrsio ar-lein gyda’n tîm i gael arweiniad ar ein cyrsiau Clirio, ar eich cymhwysedd, a gwneud cais i astudio yma drwy Clirio.
Sgwrsio gyda Ni dros WhatsApp
Cysylltwch â ni ynglŷn â'ch opsiynau Clirio dros WhatsApp. Gallwch anfon neges at ein tîm yn uniongyrchol i gael arweiniad cyflym a phersonol ar ein cyrsiau Clirio, ar eich cymhwysedd, a gwneud cais i astudio yma drwy Clirio. Nid ydym yn derbyn galwadau ffôn dros WhatsApp.